Gofynnom i chi ddathlu eich anifeiliaid anwes trwy anfon lluniau ohonyn nhw i mewn ac ni wnaethoch chi ein siomi!
Rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweld eich holl gymdeithion gwych ac wedi penderfynu anrhydeddu pob un ohonynt yn ein Oriel Anifeiliaid Anwes.
Mae gennym ni Acorn y bochdew o Syria a Tyga mewn cas cario!
Gallwch weld yr Arglwydd Mac o Dovedale yn ei holl ogoniant a rhyfeddu at Snoopy y ci canfod meddygol.
Hoffech chi ychwanegu eich ffrind blewog, cennog, pigog neu bluog i'n horiel? Cysylltwch â ni YMA ac fe ddown yn ôl atoch gyda'r manylion.