RHYBUDD Draenogod - Ar yr adeg hon o’r flwyddyn chwiliwch am y creaduriaid pigog hyn cyn cynnau eich coelcerth.
Mae coelcerthi yn fannau cysgu perffaith i ddraenogod a phob blwyddyn mae llawer yn cael eu llosgi'n fyw. Os ydych chi'n cael coelcerth, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio y tu mewn cyn ei chynnau. Os byddwch yn dod o hyd i ddraenog, symudwch ef i le diogel. Eleni mae ail dorllwythi wedi cael eu geni yn hwyrach nag arfer oherwydd y gaeaf oer. Mae hyn yn golygu y gall fod draenogod ifanc a rhai o dan bwysau o hyd o gwmpas. Cofiwch os ydyn nhw o dan 600gr ni fyddant yn goroesi gaeafgysgu ac mae angen mynd â nhw i ganolfan achub anifeiliaid leol.